Cefnogir y llwybrau gan nifer o grwpiau gweithgareddau awyr agored sy’n weithgar yn Ynysybwl gan gynnwys:
- Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Daerwynno
- Clwb Merlota Ynysybwl
- Rhedwyr Roberttown
- Cerddwyr Clydach
- Clwb seiclo Aberdâr
Eu nod yw gwella a gwneud y llwybrau yn y goedwig ac yng nghyffiniau Ynysybwl yn fwy hygyrch ac o fewn cyrraedd.
Mae’r grwpiau wedi lansio Llwybr Cerdded y Pwll Pysgod (Fish Pond) sy’n daith gerdded dwy a hanner milltir o amgylch Ynysybwl gan ddechrau a gorffen yn y sgwâr, a mynd ar hyd llwybr Lady Windsor a’r llwybrau cerdded i fyny at Gribyn Ddu.
Mae’r grŵp yn gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac wedi dod i gytundeb gyda hwy i wella’r llwybr seiclo a cherdded yn y goedwig, ochr yn ochr â’r llwybr newydd i geffylau. Bydd y rhain yn cael eu lansio yn ddiweddarach eleni.
Rhesymau dros fod yn weithgar ac actif ...
Cefnogir y llwybrau gan nifer o grwpiau gweithgareddau awyr agored sy’n weithgar yn Ynysybwl gan gynnwys:
Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Daerwynno
Clwb Merlota Ynysybwl
Rhedwyr Roberttown
Cerddwyr Clydach
Clwb seiclo Aberdâr