Mae Cysylltiadau Gwyrdd yn cynnig nifer o gyfleoedd i gymryd rhan yn yr awyr agored. Gan ddefnyddio’r mannau gwyrdd o amgylch Ynysybwl a’r goedwig, gallwn ddysgu am natur, ennill sgiliau crefft gwyllt a defnyddio deunyddiau naturiol ar gyfer prosiectau crefft.
Tra’n cael hwyl, gallwn ddod i wybod mwy am ein hamgylchedd a sut y gallwn ofalu am ein cefn gwlad.
Mae gweithgareddau’n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn ar gyfer pob oedran a gallu.
Ariennir y prosiect hwn trwy’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol.