Prosiect Presgripsiynu gwyrdd a ariennir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yw Gwyrdd, Main ac Iach. Gan gysylltu gyda Phresgripsiynu Cymdeithasol lle mae Meddyg Teulu yn cyflwyno presgripsiwn o weithgaredd cymunedol cymdeithasol neu gorfforol i gefnogi Iechyd a Lles cleifion, mae Gwyrdd, Main ac Iach yn cynnig gweithgareddau awyr agored sy’n lleol i Ynysybwl gan gynnwys Llanwnno. Dechreuodd ein Cysylltwr Cymunedol – Dave Harris – ar ei swydd ar ddechrau mis Tachwedd 2018, gyda gwaith cychwynnol yn cynnwys rhwydweithio ag amrywiol asiantaethau i godi ymwybyddiaeth am y prosiect. Mae lle wedi’i gytuno o fewn y meddygfeydd lleol ac mae Dave yn cwrdd â chleifion a sgwrsio â hwy am Wyrdd, Main ac Iach o fewn ystafell aros y meddygfeydd.
Wedi dim ond ychydig wythnosau, dechreuodd nifer y bobl oedd yn dod i sesiynau gweithgareddau Daerwynno gynyddu ac mae grŵp rheolaidd o wyth o bobl yn mynychu erbyn hyn. Mae’r grŵp hwn wedi ennill cymaint o’r profiad hwn. “Ni allaf aros ar foreau dydd Llun”, ac o hyn, ffurfiwyd Ynysybwl Strollers. Mae Dave a gwirfoddolwraig leol o’r enw Kath Price wedi cynnal hyfforddiant cerdded i wirfoddolwyr gan ganiatáu i’r grŵp gwrdd pob pythefnos a defnyddio’r llwybrau o amgylch y pentref a’r goedwig am deithiau cerdded hamddenol.
Mae aelodau’r grŵp wedi dynodi erbyn hyn y byddent yn hoffi rhoi cynnig ar deithiau cerdded mwy heriol, felly o ganlyniad i hyn mae’r posibilrwydd o sefydlu grŵp cerdded canolradd yn cael ei archwilio. Ar 19 Ionawr, cysylltodd Ynysybwl Strollers gyda grŵp llywio Llwybrau’r Weledigaeth i lansio llwybr cerdded cyntaf y pentref – Llwybr Cerdded y Pwll Pysgod (The Fish Pond). Roedd hyn wedi caniatáu i’r grŵp gwrdd â grwpiau eraill, megis Cerddwyr Clydach.
Ynghyd â chael budd o gynnydd mewn gweithgaredd corfforol o fewn gweithgareddau Gwyrdd, Main ac Iach, mae manteision amlwg y gellir eu dangos i iechyd meddwl. “Dwi’n teimlo fel dynes newydd.” Mae’r grŵp yn arbennig o gefnogol o’i gilydd ac mae cyfeillgarwch newydd wedi cael ei ffurfio.
Ynghyd ag Ynysybwll Strollers, mae ail grŵp cerdded wedi cael ei ffurfio ar gyfer rhieni/gofalwyr, babanod a phramiau – Ynysybwl Mini Strollers. Daeth y grŵp hwn i fodolaeth trwy rwydweithio gyda grwpiau chwarae lleol a oedd wedi dynodi’r angen am grŵp o’r fath. Roedd nifer o rieni/gofalwyr eisiau bod yn actif yn yr awyr agored ond ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i fod ar ben eu hunain. Mae’r Mini Strollers yn cynnig cyfle i rieni/gofalwyr fod yn actif yn yr awyr agored trwy fod yn rhan o grŵp cyfeillgar sy’n cynnal teithiau cerdded hygyrch sydd o fewn cyrraedd a’r cyfle i ennill hyder i archwilio’r awyr agored. Ynghyd ag Ynysybwl Strollers, mae’r grŵp hwn yn cynnig amgylchedd cefnogol i famau, tadau, neiniau a theidiau a gofalwyr i siarad am y llawenydd a’r heriau o fagu plant. Mae Mini Strollers erbyn hyn yn grŵp annibynnol sy’n cwrdd ar ddydd Iau (gan ddibynnu ar y tywydd) am 10.00am wrth fynedfa llwybr Lady Windsor.
Mae Gwyrdd, Main ac Iach yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2019, mae wedi ymgysylltu gyda 200 o bobl gan gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau gwyrdd yn cynnwys dyddiau gweithgareddau a gweithgaredd grŵp newydd. Hoffem ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru am ariannu’r prosiect ac i bawb sydd wedi cymryd rhan.