Pwy ydyn ni, ein hanes, ein gweledigaeth a chwrdd â'r tîm gwych sy'n gwneud y cyfan yn bosibl.
EIN GWELEDIGAETH, CENHADAETH A PHWRPAS
PWY YDYM NI?
Ymddiriedolaeth ddatblygu, elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant yw Partneriaeth Adfywio Ynysybwl. Nod yr ymddiriedolaeth yw codi ansawdd bywyd i bawb, creu cyfleoedd i bobl ifanc a chreu cyfleoedd mewn iechyd a lles ynghyd â helpu i ddatblygu’r economi lleol, yn enwedig mynediad at gefn gwlad a thwristiaeth.
EIN PWRPAS
Y newid y mae Partneriaeth Adfywio Ynysybwl (PAY) eisiau ei arwain ar gyfer cymunedau Ynysybwl a Choed Y Cwm yw:
• Annog mwy o weithgaredd o fewn y cymunedau a gwneud defnydd gwell o amgylcheddau naturiol sy’n amgylchynu’r ardal.
• Cael llais cryfach sy’n dylanwadu ac yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer dylunio gwasanaethau yn lleol.
• Datblygu ac ysgwyddo cyfrifoldeb dros asedau cymunedol sy’n ymgysylltu/cynnwys unigolion a grwpiau mewn gweithgareddau a chyfleoedd sy’n gwella addysg, cyflogaeth, iechyd a lles.
• Sicrhau fod Ynysybwl a Choed y Cwm yn gymunedau cynhwysol sy’n cynnig cefnogaeth i’r unigolion hynny sy’n anodd eu cyrraedd a’u croesawu i ymuno mewn gweithgareddau’r gymuned leol.
• Cynnig cefnogaeth a helpu i feithrin ac adeiladu capasiti grwpiau cymunedol ac unigolion i’w gwneud yn fwy effeithiol a chynaliadwy gan helpu i wella bywydau.